Amdanom Ni.

Sefydlwyd Chrysalis yn 2001, ac mae’n gweithio ar y cyd ag uwch staff meddygol a nyrsio yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn darparu gwasanaeth sy’n cynnwys gwybodaeth, cwnsela a chefnogaeth. Mae Chyrsalis yn darparu gwasanaeth i blant a theuluoedd yn ardaloedd Sir y Fflint, Conwy a Dinbych a nod Chrysalis yw, os bydd cyllid ar gael, i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ar draws gogledd Cymru.

Mae gan Chrysalis fwrdd o Ymddiriedolwyr gydag amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys dau riant sydd wedi colli plentyn a rhiant a ddefnyddiodd y gwasanaeth pan gafodd ei merch ddiagnosis o gyflwr a all beryglu bywyd. Noddwr Chrysalis yw’r Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley.

Mae cwnselwyr Chrysalis yn meddu ar gymwysterau proffesiynol ac yn aelodau o’r Sefydliad Cwnsela a Seicotherapi Prydeinig (BACP). Mae sesiynau cwnsela’n gyfrinachol ac wedi’u darparu mewn amgylchedd diogel. Mae gan Chrysalis ystafell gwnsela un pwrpas yn Ysbyty Glan Clwyd a gellir trefnu ymweliadau cartref.

Mae Chrysalis yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Alder yn Ysbyty Brenhinol Plant Lerpwl.

 

Pwy fyddwn ni’n eu helpu

  • Plant a phobl ifanc (18 ac iau) sydd wedi derbyn diagnosis o salwch a all beryglu neu gyfyngu ar fywyd neu derfynol.
  • Rhieni, gwarcheidwaid a brodyr neu chwiorydd sy’n dod i delerau â diagnosis anodd plentyn neu oedolyn ifanc yn y teulu.
  • Rhieni, gwarcheidwaid a brodyr a chwiorydd sydd yn anffodus wedi colli baban, plentyn neu oedolyn ifanc drwy salwch, damwain neu farw anedig.

Sut byddwn yn helpu

Drwy ddarparu …..

  • Gwybodaeth sy’n briodol i anghenion y plentyn a’r teulu.
  • Gwasanaeth cwnsela.
  • Cefnogaeth a chwnsela’n dilyn profedigaeth.
  • Cysylltiadau a sefydliadau penodol eraill a all helpu.
  • Llyfrgell ac adnoddau.
  • Mynediad at gefnogaeth grwp.

 

Hafan | Amdanom Ni | Storïau | Cysylltwch | Cefnogwyr | Codi Arian | Er Cof | Cysylltiadau | Yn ôl i fynnu