Storïau Personol.
Louise Emery
Ganwyd fy merch yn gynamserol iawn (25 wythnos), ac yn dilyn ei genedigaeth, aethpwyd â hi ar unwaith i’r Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glan Clwyd. Roedd hyn yn ddechrau ar dri mis yn yr adran gofal dwys, yna deufis arall yn yr uned cyn iddi gael dod adref. Cefais feichiogrwydd iach a chan fy mod yn rywun ffit, roedd byw ger crud cynnal bob un diwrnod yn dipyn o newid byd. Byddai newidiadau o fod yn reit dda ar rai dyddiau i wynebu sefyllfaoedd pan fyddem yn cael ein hanfon allan o’r ystafell er mwyn i arbenigwyr allu cymryd drosodd i wneud eu gorau i ddod â hi drwy ‘gyfnodau anodd’ yn galed iawn. Mewn gair, roedd y cyfan yn uffern.
Ar ôl wythnos o hyn, awgrymodd un o’r nyrsys dylwn siarad â chwnsler Chrysalis. Nid oeddwn wedi erioed wedi bod at ‘gwnsler’ o’r blaen, nid oeddwn erioed wedi bod angen hyn, ac roeddwn yn meddwl beth yn y byd a all ddweud i wneud i mi deimlo’n ‘well’ am y sefyllfa. Roedd pethau’n gwaethygu i fy merch ac roeddwn yn byw bob dydd fel ei diwrnod olaf - roedd hyn yn ffordd negatif iawn o feddwl, ond newidiodd y cwnsler hyn i gyd. Yn dawel a thyner, dros sawl paned o de a sgyrsiau tawel, mi lwyddodd i droi fy meddyliau negatif i fod yn bositif; gan geisio edrych ar sut roedd fy merch yn dod yn ei blaen, pa rwystrau roedd hi wedi’u goresgyn a gafael yn fy llaw, go iawn, drwy’r amser hwn o argyfwng. Dysgais i ymdopi gyda’r trawma dyddiol; dechreuais fod yn fwy positif ac o ganlyniad, helpu fy nheulu, a oedd yn byw drwy hyn gyda mi.
Roedd y cwnsler gyda mi drwy gydol y pum mis yn yr Uned UGAB. Roeddem yn cyfarfod ddwywaith yr wythnos ac roedd ar gael 24/7 yn ystod yr amserau o argyfwng. Pan ddaeth fy merch adref o’r diwedd, daeth y cwnsler i ymweld â mi gartref. Roeddem yn gallu siarad am gyfnod hirach am yr hyn roeddwn wedi mynd drwyddo a sut roeddwn yn ymdopi gyda’r amrywiol driniaethau roedd fy merch yn parhau i fod eu hangen am fisoedd i ddod. Roedd Chrysalis, i mi, yn rhaff achub yn ystod y misoedd anodd hyn. Mae’r proffesiwn meddygol yn canolbwyntio ar y ‘plentyn’ a Chrysalis yn canolbwyntio ar ‘rieni’. Roeddent gyda ni bob cam drwy un o’r cyfnodau mwyaf dychrynllyd yn ein bywydau a byddaf yn ddiolchgar am byth iddynt am yr hyn a wnaethant i’n helpu drwyddo.
Sue a Dean Jude
Bu farw ein mab 15 oed yn drasig yn 2003 ac roeddwn yn credu fy mod yn wynebu diwedd y byd. Yn ffodus, cynigiodd uwch feddyg yn Ysbyty Glan Clwyd i’n teulu gael gwasanaeth cwnsela gan Ymddiriedolaeth Chrysalis ac mae’r gefnogaeth ofalgar a dderbyniwyd gennym wedi’n helpu i adennill y cryfder i ymdopi â’n galar. Rwy’n teimlo fod angen mawr ar y rhai sy’n dal ar ôl, bydd pobl eraill wedi cyfnod byr yn anghofio’r trawma maent yn parhau i’w ddioddef y tu mewn. Mae’r gefnogaeth i’r rhieni a’r brodyr a’r chwiorydd mae Chrysalis yn ei gynnig yn werthfawr iawn yn yr ardal. Rwy’n apelio i chi ystyried cefnogi’r elusen gwerth chweil hon fel y gall barhau i helpu a chefnogi eraill.
|